Y gwasanaeth Hwb newydd, a fydd yn lansio ar 1 Medi, fydd y ffordd hawdd i chi gael mynediad at wybodaeth a chymorth. Bydd yr Hwb yn dod â MyUniHub a thimau Gwybodaeth Myfyrwyr y Cyfadrannau ynghyd i greu un gwasanaeth syml i fyfyrwyr.
Wrth i ni baratoi i ymuno â'r Hwb a'i lansio, bydd MyUniHub yn cynnig llai o wasanaethau nag arfer. Bydd ein desgiau'n cau am 4pm ddydd Gwener 1 Awst, ond byddwch chi’n dal i fedru cysylltu â ni drwy e-bost yn ystod y cyfnod pan fyddwn yn cynnig llai o wasanaeth. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.